Mynd i'r cynnwys

Adeiladau Arddangos Gweithredol

Mae adeiladau’n gyfrifol am tua hanner allyriadau CO2 y DU. Mae ein cysyniad ‘Adeiladau Gweithredol’ yn cynnig ateb i’r broblem hon drwy greu adeiladau sy’n creu, yn storio ac yn rhyddhau’u hynni solar eu hunain. 

Mae rhaglen adeiladau arddangos SPECIFIC yn profi cysyniad Adeilad Gweithredol mewn teipolegau gwahanol o adeiladau, gan gynnwys ôl-osod warws ddiwydiannol, ystafell ddosbarth unllawr newydd a swyddfa dau lawr newydd. Mae hyn yn hanfodol er mwyn galluogi’r sector adeiladu, rheoleiddwyr a phrynwyr i fabwysiadu’r dull yn eang. Gan weithio gyda phartneriaid, ein hamcan yw gofalu bod modd i gysyniad yr Adeilad Gweithredol gael ei fabwysiadu, a hynny drwy lywio timau cyflenwi prosiectau drwy broses dylunio, adeiladu a gweithredu Adeiladau Gweithredol. 

Ian Campbell, Cadeirydd Gweithredol Innovate UK: 

“Mae’n anodd gorbwysleisio’r potensial sydd ynghlwm wrth ddatblygu adeilad sy’n pweru’i hun. Gallai’r cysyniad arwain at chwyldro go iawn yn y sector adeiladu ond gallai hefyd newid y ffordd rydyn ni’n creu ac yn defnyddio ynni, felly mae agor y Swyddfa Weithredol yn Abertawe yn gam cyffrous ymlaen. Gall technolegau sy’n datblygu fel y rheiny a ddangosir yn Swyddfa Weithredol SPECIFIC chwarae rôl gref yn strategaeth ddiwydiannol fodern y Llywodraeth i greu ‘twf glân’ gan gyflawni felly ein cenhadaeth i haneru allyriadau adeiladau newydd erbyn 2030.” 

Newyddion Diweddaraf:

Yr Adeiladau Arddangos:

Yr Ystafell Ddosbarth Actif

Y Swyddfa Actif

Cartrefi Actif Castell-nedd

Y “SHED”