Mynd i'r cynnwys

Dr Justin Searle

Ar ôl astudio cemeg ddadansoddol ym Mhrifysgol Abertawe, aeth Justin ymlaen i gwblhau doethuriaeth mewn peirianneg gan astudio ffotosefydlogrwydd paent PVC. Roedd ei waith yn ymwneud â datblygu prawf cyflym ar gyfer asesu ffotoddirywiad caenau a’u cydrannau, gan gynnwys asesu cyfraddau’r dirywiad a’r rhywogaethau cemegol canolradd a gynhyrchid. Roedd Justin hefyd yn gyd-ddatblygwr yr offeryn sganio 3 dimensiwn trwy ddirgrynu electrod yn Abertawe, sy’n medru ymchwilio i brosesau cyrydu sy’n digwydd ar samplau nad ydynt yn blanar, fel weldiau a chydrannau wedi’u ffurfio.

Ar ôl cwblhau’i ddoethuriaeth, bu Justin yn gweithio i Tata Colors yng Ngwaith Shotton ar Lannau Dyfrdwy. Yn ystod ei yrfa mewn diwydiant a barodd 10 mlynedd bron, bu’n gweithio yn yr Adran Dechnegol gan edrych yn bennaf ar wella prosesau trwybwn ar gyfer y llinellau galfanu a ‘colorcoat’ fel ei gilydd.

Daeth Justin yn ôl i weithio yng nghanolfan SPECIFIC ar ddiwedd 2011. Yn ystod ei gyfnod yn y ganolfan, mae wedi datblygu offer profi celloedd solar wedi’u hawtomeiddio er mwyn cynyddu trwybynnau nodweddu dyfeisiau, ynghyd â system sy’n archwilio oes celloedd solar trwy gyfrwng trwythwr golau wedi’i awtomeiddio a phrofwr IV. Bu’n gweithio ac yn cydweithio ar draws lawer o themâu ymchwil SPECIFIC a threuliodd ychydig dros dair blynedd yn rheoli’r berthynas dechnegol a datblygu prosiectau ar gyfer un o bartneriaid strategol SPECIFIC.

Yn 2016 derbyniodd rôl Dirprwy Gyfarwyddwr Ymchwil, gan ysgwyddo’r cyfrifoldeb am reoli’r biblinell ymchwil a datblygu ynghyd â datblygiad y tîm, a chydweithio’n agos â’r academyddion a’r technolegwyr i ddiffinio targedau ymchwil a chynlluniau strategol. Yn 2018, derbyniodd Justin rôl y Cyfarwyddwr Technoleg, sy’n arwain y timau cyflawni technegol ar gyfer adeiladau, integreiddio systemau ac arddangos technoleg, gyda chyfrifoldeb dros arddangos a darparu technoleg ar raddfa adeiladau.

Ebost: j.r.searle@swansea.ac.uk

Papurau academaidd

Share this post: