Mynd i'r cynnwys

Mae SPECIFIC yn Ganolfan Arloesi a Gwybodaeth (IKC) yn y DU. Mae’r ganolfan wedi’i hachredu gan UKRI ac mae’n arwain y ffordd o ran ymchwil i dechnoleg ynni ac arddangos ar raddfa lawn.

Ein gweledigaeth yw byd lle gall adeiladay gynhyrchu, storio, a rhyddhau eu gwres a’u trydan eu hunain o ynni solar. I gyflawni hyn, rydym yn ymchwilio, yn profi ac yn hyrwyddo masnacheiddio cynnar o ran technolegau sydd wedi’u hintegreiddio’n rhan o adeiladau ac sy’n gallu dal gwres a thrydan o’r haul a’i storio mewn adeilad nes y bydd ei angen. Rydym ni hefyd yn ymchwilio i rôl yr adeiladau hyn yn ein systemau ynni a thrafnidiaeth genedlaethol.

Caiff rhai o’r technolegau eu datblygu yma gan ein timoedd ymchwil, sy’n arbenigo ym maes uwchraddio technoleg o’r labordy i raddfa adeilad llawn. Rydym ni hefyd yn gweithio gydag amrywiaeth eang o fusnesau a phartneriaid academaidd i arddangos a chefnogi masnacheiddio cynnar o ran technolegau a systemau adnewyddadwy newydd.

Mae adeiladau’n cyfrif am 40% o allyriadau carbon byd-eang; yn y DU, maent yn defnyddio tua 40% o’r holl ynni a gynhyrchir. I fynd i’r afael â’r argyfwng ynni a lleihau allyriadau carbon, mae’n rhaid i ni newid y ffordd mae adeiladau wedi’u dylunio, eu hadeiladu a’u hintegreiddio i’n system ynni mewn ffordd chwyldroadol: dyma ein cenhadaeth.



Award Logo

Noddwyr a Phartneriaid Diwydiannol Strategol

Mae SPECIFIC yn gonsortiwm academaidd a diwydiannol gyda nifer o bartneriaid o’r byd academaidd, diwydiant a’r llywodraeth.

Hefyd rydym yn gweithio gydag ystod eang o sefydliadau sy’n gysylltiedig â’r sectorau ynni ac adeiladu, megis dylunwyr a datblygwyr adeiladau, rheoleiddwyr, llunwyr polisi, dosbarthwyr ynni ac arbenigwyr integreiddio cerbydau trydan.

Ni fydd problem ynni carbon isel yn cael ei datrys gan un math o dechnoleg, un sefydliad neu hyd yn oed un sector yn unig.

Rydym yn cydweithio i ddatblygu technolegau ynni newydd a’u masnacheiddio ac i newid sut caiff adeiladau eu dylunio a’u defnyddio.

Dan arweiniad:

Ariennir gan:

Partneriaid diwydiannol strategol: