Mynd i'r cynnwys

LLWYBR CARBON ISEL I 2030

Mis yma, fe drefnom ddigwyddiad mewn ymateb i Ymgynghoriad Llwybr Carbon Isel Llywodraeth Cymru; gan godi ymwybyddiaeth o’r materion allweddol a sut all #AdeiladauByw fod yn rhan o’r datrysiad.

Cyd-destun/Cefndir: Newid yn yr hinsawdd yw un o’r heriau mwyaf sy’n bygwth ffyniant Cymru oherwydd y bydd yn effeithio ar fywydau pob un ohonom. Mae’n ofynnol i Gymru leihau ei hallyriadau carbon gan o leiaf 80% erbyn 2050. Mae hyn yn golygu bod angen newid sylweddol o ran sut rydym yn byw ac yn gweithio ac nid yw’n faes polisi ar wahân. Mae’r llwybr datgarboneiddio byd-eang wedi’i bennu, gan greu eglurder a sicrwydd er mwyn ysgogi buddsoddiad. Mae hyn yn creu cyfl e economaidd enfawr i Gymru . Mae’n rhaid i bawb weithredu a chyfl ymu newid i adeiladau a thrafnidiaeth isel eu carbon.

Ein Hymagwedd: Yn sgîl heriau sylweddol yn y sectorau adeiladu, ynni a thrafnidiaeth, ymagwedd SPECIFIC a’r Ganolfan Adeiladu Ynni Gweithredol newydd fydd cysylltu’r meysydd hyn drwy ddarparu “Adeiladau Ynni Gweithredol” sy’n defnyddio technolegau integredig i greu a chadw ynni solar er mwyn darparu gwres, pwer a thrafnidiaeth ddefnyddiol pan fydd eu hangen. Dyma ymagwedd hyblyg a chlyfar lle gall grwpiau o adeiladu a cherbydau gyfnewid ynni er mwyn cefnogi cydbwysedd yn y system drydanol ehangach. Mae gan yr ymagwedd hon fanteision sylweddol o ran y potensial am dwf economaidd yn ogystal â galluogi pontio i system leol, carbon isel sy’n llai dibynnol ar eneraduron pwer mawr canolog. Yn sgîl heriau sylweddol yn y sectorau adeiladu, ynni a thrafnidiaeth, ymagwedd SPECIFIC a’r Ganolfan Adeiladu Ynni Gweithredol newydd fydd cysylltu’r meysydd hyn drwy ddarparu “Adeiladau Ynni Gweithredol” sy’n defnyddio technolegau integredig i greu a chadw ynni solar er mwyn darparu gwres, pwer a thrafnidiaeth ddefnyddiol pan fydd eu hangen. Dyma ymagwedd hyblyg a chlyfar lle gall grwpiau o adeiladu a cherbydau gyfnewid ynni er mwyn cefnogi cydbwysedd yn y system drydanol ehangach. Mae gan yr ymagwedd hon fanteision sylweddol o ran y potensial am dwf economaidd yn ogystal â galluogi pontio i system leol, carbon isel sy’n llai dibynnol ar eneraduron pwer mawr canolog.

Rhaid mynd i’r afael â heriau hollbwysig: 

  • Cost ynni, amddiffyn a diogelu defnyddwyr wrth gyfl enwi pwer clyfar sy’n hyblyg ac yn lân.
  • Dadgarboneiddio gwres mewn adeiladau a’r rhan fwyaf o brosesau diwydiannol gan o leiaf 80% erbyn 2050.
  • Agor y farchnad ynni at ynni hyblyg er mwyn bod o fudd i ddefnyddwyr terfynol domestig ac ar raddfa fasnachol.
  • Lleihau allyriadau carbon a llygredd lleol sy’n gysylltiedig â thrafnidiaeth. [Darllenwch y crynodeb llawn…]

Trosolwg o’r Her – Kevin Bygate (SEPCIFIC)

Persbectif y Diwydiant – Steve Smith (Tata Steel)

Meddwl ar Lefel Systemau – Andris Bankovskis (Ymgynghorydd Ynni Annibynnol)

Negeseuon Allweddol – Jonathan Williams and Gill Kelleher (SPECIFIC IKC)

YMATEB TERFYNOL SPECIFIC

Share this post: