Mynd i'r cynnwys

Telerau Ac Amodau

Gwybodaeth am gynnwys gwefan Canolfan Arloesedd a Gwybodaeth SPECIFIC

Ymwadiad

Mae canolfan SPECIFIC yn gwneud pob ymdrech posibl i sicrhau bod yr wybodaeth a gyhoeddir ar ei gwefan yn gyfredol ac yn fanwl gywir, ond nid yw’n derbyn rhwymedigaeth gyfreithiol am wallau neu hepgoriadau, ac mae’n cadw’r hawl i wneud newidiadau yn ddirybudd.

Ymdrinnir â phob cais rhesymol am newidiadau fesul achos unigol.

Ni fydd canolfan SPECIFIC yn derbyn cyfrifoldeb am unrhyw gyngor neu wybodaeth anghywir a ddarperir ar wefannau yr eir iddynt trwy’r dolenni ar ei thudalennau gwe.

Hawlfraint

Prifysgol Abertawe sy’n dal yr hawlfraint ar yr holl destunau a gyhoeddir ar wefan SPECIFIC ac eithrio’r testun y nodir yn amlwg ei fod o dan hawlfraint rhywun arall. Caniateir i unigolion lawrlwytho neu gopïo’r deunyddiau hyn at eu defnydd personol yn unig. Dylid anfon cynigion am atgynhyrchu o fath arall i’r cyfeiriad: Canolfan Arloesedd a Gwybodaeth SPECIFIC, Canolfan Arloesedd Bae Baglan, Port Talbot SA12 7AX neu info-specific@swansea.ac.uk. Cedwir pob hawl.

Ni chaniateir atgynhyrchu delweddau heb ganiatâd ymlaen llaw.

Ceisiadau am dynnu cynnwys i lawr

Anfonwch neges e-bost at: info-specific@swansea.ac.uk i wneud cais am waredu tudalen neu destun o’r wefan.